Cyfraith teulu
Mae Catrin yn ymddangos yn gyson mewn achosion gofal, gan gynrychioli rhieni, Awdurdodau Lleol, plant, ac ymyrwyr. Mae ganddi brofiad sylweddol o achosion sy’n ywneud ag anafiadau sydd ddim yn ddamweiniol, a chamdriniaeth rywiol, yn ogystal â thrais yn y cartref, ac esgeulustod. Mae Catrin yn delio ag ystod o geisiadau, gan gynnwys ceisiadau mabwysiadu ac FGM.
Yn ogystal, mae gan Catrin brofiad helaeth o gynrychioli rhieni a gwarcheidwaid mewn materion cyfraith breifat cymhleth. Mae ei hymarfer yn cynnwys achosion sy’n ymwneud â chamdriniaeth rywiol, trais corfforol, a gelyniaeth ddidrugaredd. Mae Catrin hefyd yn derbyn cyfarwyddiadau mewn ceisiadau ailgartrefu allanol a mewnol.