Cyfraith teulu
Mae Patrick yn derbyn cyfarwyddiadau mewn achosion cyfraith plant cyhoeddus a phreifat. Mae wedi cynrychioli rhieni, gwarcheidwaid, ymyrwyr ac awdurdodau lleol hyd at a chan gynnwys mewn gwrandawiadau terfynol. Mae ganddo brofiad mewn achosion o’r difrifoldeb pennaf gan gynnwys dieithrio plentyn wrth riant, symud plentyn o’r awdurdodaeth, anafiadau a achoswyd, camdriniaeth rywiol a ffug feichiogrwydd.
Cyfraith sifil
Rheoleiddiol
Mae Patrick wedi ymddangos mewn nifer o dribiwnlysoedd rheoleiddiol gan gynnwys yr NMC a’r HCPC.
Yn y sector addysgu, mae wedi ymddangos gerbron Panel Ymddygiad Proffesiynol y Coleg Cenedlaethol Addysgu ac Arweinyddiaeth (NCTL), yn ogystal â Phwyllgor Cymhwyster i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg.
Yn 2017, cynrychiolodd Patrick ‘uwch-bennaeth’ ffederasiwn o ysgolion uchel ei broffil mewn achos deng niwrnod o hyd oedd yn cynnwys honiadau o ddarpariaeth annigonol i ddisgyblion AAA, toriadau iechyd a diogelwch, bwlio a chamymddwyn mewn arholiadau.
Yn fwy diweddar, canolbwyntiodd practis Patrick ar gyflwyno achosion i Gyngor y Gweithlu Addysg. Roedd yr achosion hyn yn cynnwys honiadau o anonestrwydd, ymosodiad, twyll a chamymddygiad rhywiol, ymhlith pethau eraill.
Eisteddodd Patrick fel ymgynghorydd cyfreithiol annibynnol ar banelau apêl derbyn i ysgolion hefyd.