Ynglŷn â
Siambrau Angel yw’r Siambrau Bargyfreithwyr hynaf a mwyaf sefydlog yn Abertawe a sefydlwyd yn y 1920au yn wreiddiol.
Dros y blynyddoedd, cafwyd cynnydd sefydlog a saerniedig yn nifer y tenantiaid sy’n ymarfer o’r set a bydd y broses hon yn parhau. Mae hyn yn golygyu mai ni yw’r set fwyaf yn Ne Orllewin Cymru erbyn hyn. Rydym wedi addasu i anghenion y cleient proffesiynol a lleyg sy’n ceisio darparu’r gwasanaethau hynny sy’n ofynnol gennym. Rydym yn falch fod gennym yr adnoddau i gynghori cleientiaid ac ymddangos yn y Llys trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob disgyblaeth gyfreithiol ac ar bob lefel
Dros y blynyddoedd, mae nifer o gyn aelodau’r Siambrau wedi mynd ymlaen i gymryd Swydd Farnwrol mewn amrywiaeth o alluoedd gan gynnwys penodiadau i’r Uchel Lys a Mainc y Gylchdaith yn ogystal â phenodiadau fel Beirniaid Ardal a Chadeiryddion Tribiwnlysoedd Diwydiannol. Mae nifer o denantiaid cyfredol yn dal Swydd Farnwrol ran-amser.
Cynigiwn wasanaeth eiriolaeth ac ymgynghorol cynhwysfawr ar draws De a Gorllewin Cymru yn bennaf ond rydym yn barod i dderbyn gwaith unrhyw le ar y Gylchdaith neu’n wir yn unrhyw le arall pan fo’n briodol. Mae gennym aelodau a all gynghori ar y rhan fwyaf o ddisgyblaethau ac rydym yn ceisio addasu’n gyson er mwyn bodloni’r galw.