Cyfraith teulu
Mae gan Emily bractis cyfraith teulu prysur yn cynrychioli ymgeiswyr ac ymatebwyr mewn amrywiaeth o faterion teuluol yn y Llys Sirol gerbron Ynadon, Barnwyr Rhanbarth a Barnwyr Cylchdaith.
Mae Emily yn aml yn cael cyfarwyddiadau i gynrychioli ystod o unigolion, gan gynnwys rhieni a neiniau a theidiau, mewn perthynas â cheisiadau am Orchmynion Trefniadau Plant, Gorchmynion Mater Penodol a Gorchmynion Camau Gwaharddedig. Mae Emily yn ymgymryd â gwaith ar bob cam o achosion materion plant preifat, o wrandawiadau cymodi a chyfarwyddo i wrandawiadau terfynol. Mae Emily yn cael ei chyfarwyddo’n rheolaidd mewn materion sy’n ymwneud â cham-drin domestig, honiadau o gam-drin plant a lle mae Awdurdod Lleol yn ymwneud â’r mater.
Mae Emily hefyd yn derbyn cyfarwyddiadau mewn achosion cyfraith gyhoeddus. Mae Emily yn cynrychioli pob parti ac mae ei gwaith hyd yma wedi cynnwys cynrychioli Gwarcheidwaid Plant ar wahanol gamau o achosion gofal gan gynnwys gwrandawiadau rheoli achos a gwrandawiadau datrys materion.
Mae Emily hefyd yn cynrychioli cleientiaid mewn ceisiadau am waharddeb teulu ar gyfer Gorchmynion Peidio ag Ymyrryd a Gorchmynion Meddiannaeth.
Cyfraith trosedd
Mae Emily yn cael ei chyfarwyddo’n rheolaidd gan yr erlyniad a’r amddiffyniad yn Llysoedd yr Ynadon a’r Goron ledled de a gorllewin Cymru.
Mae Emily yn erlyn ac yn amddiffyn mewn ystod eang o achosion troseddol megis troseddau trefn gyhoeddus, troseddau yn erbyn y person, troseddau gyrru, troseddau cyffuriau a lladrad.
Cyfarwyddir Emily mewn perthynas â dedfrydau, apeliadau yn erbyn collfarnau/dedfrydau a threialon.
Mae Emily hefyd yn cael ei chyfarwyddo i ymddangos ar ran yr heddlu mewn ceisiadau am Orchmynion Amddiffyn rhag Trais yn y Cartref yn ogystal â cheisiadau datgelu ar ran yr heddlu a’r CPS gerbron y Llys Teulu.
Cyfraith sifil
Mae Emily yn cyflawni gwaith yn rheolaidd ar amrywiaeth o faterion hawliadau bychain, yn enwedig mewn perthynas â Damweiniau Traffig Ffyrdd, lle mae anghydfod ynghylch atebolrwydd a cwantwm. Mae Emily hefyd yn derbyn cyfarwyddiadau i gynrychioli hawlwyr a diffynyddion mewn gwrandawiadau cam 3 mewn perthynas ag anafiadau personol. Mae Emily yn cael ei chyfarwyddo’n aml ar hawliadau meddiant a wneir o dan adran 8 ac adran 21 Deddf Tai 1988.